Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Rheoliadau Rheoli Gwastraff (Ymdrin ag Eiddo a Atafaelwyd) (Cymru a Lloegr) 2015
Mae'r Rheoliadau hyn yn cryfhau pwerau presennol i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru (ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr) atafaelu cerbydau sydd o dan amheuaeth o gymryd rhan mewn tipio anghyfreithlon a throseddau gwastraff. Maent yn pennu'r hyn y mae'n rhaid i awdurdod ei wneud i sicrhau bod y cerbyd yn cael ei gadw'n ddiogel a phenderfynu ar berchennog cyfreithlon unrhyw gerbyd neu eiddo arall a atafaelwyd, yr amgylchiadau pan mae'n rhaid i awdurdod ddychwelyd unrhyw gerbyd neu eiddo a atafaelwyd i'w berchennog priodol a'r amgylchiadau pan fydd yn gallu gwerthu, dinistrio neu waredu mewn ffordd arall eiddo a atafaelwyd. Maent hefyd yn dirymu Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cofrestru Cludwyr ac Atafaelu Cerbydau) 1991 (OS 1991/1624).
Gweithdrefn: Negyddol
Materion technegol: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
1. Ni chafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud yn ddwyieithog. Mae paragraff 2 o'r Memorandwm Esboniadol yn esbonio (ymhlith materion eraill) y bydd yr offeryn statudol cyfansawdd hwn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac y bydd is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru ar yr un pryd â Gweinidogion Llywodraeth y DU ac sy'n destun craffu Senedd y DU yn cael eu gwneud yn Saesneg yn unig. [Rheol Sefydlog 21.2(ix) - ni wnaed yn ddwyieithog]
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Mawrth 2015
Ymateb y Llywodraeth
Bydd y Rheoliadau cyfansawdd hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac maent yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn nau DŷSenedd y Deyrnas Unedig. Gan y bydd Senedd y Deyrnas Unedig yn craffu ar y Rheoliadau, ni chredir ei bod yn rhesymol ymarferol i wneud na gosod yr offeryn hwn yn ddwyieithog.